{"id":891,"date":"2021-04-10T06:10:16","date_gmt":"2021-04-10T06:10:16","guid":{"rendered":"https:\/\/www.msfoma.org\/?page_id=891"},"modified":"2021-04-12T15:02:44","modified_gmt":"2021-04-12T15:02:44","slug":"ymgynghoriad-ar-orchymyn-pysgodfa-newydd-afon-menai-ebrill-mai-2021","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.msfoma.org\/?page_id=891","title":{"rendered":"Ymgynghoriad ar Orchymyn Pysgodfa Newydd Afon Menai Ebrill-Mai 2021"},"content":{"rendered":"\r\n\r\n\r\n<p>Mae ymgynghoriad cyhoeddus bellach yn agored ar y cynnig i greu \u201cGorchymyn Pysgodfa\u201d newydd yn nwyrain Afon Menai i gymryd lle\u2019r Gorchymyn Pysgodfa sydd wedi bod ar waith ers 1962.\u00a0 Mae\u2019r Gorchymyn Pysgodfa newydd hwn yn hanfodol ar gyfer dyfodol ffermio pysgod cregyn yn yr ardal hon, ac rydym yn awyddus i glywed eich barn. Mae\u2019r ymgynghoriad ar agor rhwng <strong>8 Ebrill ac 8 Mai 2021<\/strong>.\u00a0 Rhoddwyd hysbysiadau ffurfiol o\u2019r ymgynghoriad yn Fishing News, y Daily Post a\u2019r Western Mail.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/www.msfoma.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Cym-Eng-MSFOMA-Dwyrain-Menai-East-2021.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"https:\/\/www.msfoma.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/Cym-Eng-MSFOMA-Dwyrain-Menai-East-2021.pdf noopener\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"wp-image-773 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.msfoma.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/MSFOMA-Dwyrain-Menai-East-Ad-080421bT.png\" alt=\"Rhybudd Cyhoeddus \/ Public Notice\" width=\"321\" height=\"437\" srcset=\"https:\/\/www.msfoma.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/MSFOMA-Dwyrain-Menai-East-Ad-080421bT.png 428w, https:\/\/www.msfoma.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/MSFOMA-Dwyrain-Menai-East-Ad-080421bT-221x300.png 221w\" sizes=\"(max-width: 321px) 100vw, 321px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p>Yn ymarferol, mae\u2019r Gorchymyn Pysgodfa newydd arfaethedig yn adnewyddiad \u201ctebyg am debyg\u201d o\u2019r Gorchymyn presennol o 1962.\u00a0 Prif nodweddion y Gorchymyn Pysgodfa newydd yw:-<\/p>\r\n<ul>\r\n<li>Bydd ardaloedd a gweithgareddau ffermio pysgod cregyn yn aros yn yr un lleoliadau ag y maent heddiw; ac<\/li>\r\n<li>Ni fydd y gweithgareddau o ddydd i ddydd fel ar hyn o bryd (megis hwylio, pysgota a cherdded ar y traeth) yn cael eu heffeithio.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n<p>Gellir lawrlwytho copi o\u2019r \u201cGorchymyn Pysgodfa\u201d newydd <a href=\"https:\/\/www.msfoma.org\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/2021-03-23-MSFOMA-Menai-East-SO-draft-Fishery-Order-The-Menai-Strait-East-Oyster-and-Mussel-Fishery-Order-2022-E.pdf\">yma<\/a>.\u00a0 Rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth ar eich cyfer fydd o gymorth i chi wrth ymateb i Lywodraeth Cymru a MSFOMA, yn ogystal \u00e2 rhywfaint o wybodaeth gefndirol am ffermio pysgod cregyn yn Afon Menai.<\/p>\r\n<h2>Yngl\u0177n \u00e2&#8217;r ymgynghoriad hwn<\/h2>\r\n<p>Mae\u2019r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn unol \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/ukpga\/1967\/83\/contents\">Deddf Pysgodfeydd M\u00f4r (Pysgod Cregyn) 1967<\/a>.\u00a0 Mae\u2019r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol (yn Atodlen 1) i ni gynnal ymarfer ymgynghoriad ar gyfer Gorchymyn Pysgodfa newydd am gyfnod o fis.<\/p>\r\n<h3>\u00c2 phwy y byddwn yn ymgynghori?<\/h3>\r\n<p>Fel rhan o\u2019r broses statudol, mae\u2019n ofynnol yn \u00f4l y gyfraith i ni ymgynghori \u00e2 thirfeddianwyr, les-ddeiliaid a meddianwyr tir yn ogystal \u00e2 chyrff statudol ac ymgymerwyr statudol. Mae\u2019r ymgynghoriad yn agored i unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb yn y maes.\u00a0 Er mwyn codi ymwybyddiaeth rydym wedi rhoi hysbysebion mewn papurau lleol, ac wedi anfon hysbysiadau yn uniongyrchol at yr holl bart\u00efon \u00e2 diddordeb yr ydym yn ymwybodol ohonynt ac sydd wedi bod mewn cysylltiad \u00e2 ni eisoes.\u00a0 Rydym hefyd wedi ceisio adborth trwy ein gwefan a\u2019n cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\r\n<h3>Faint o amser sydd gennyf i ymateb?<\/h3>\r\n<p>Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar <strong>8 Ebrill 2021<\/strong> ac mi fydd yn para am fis, gan orffen ar <strong>8 Mai 2021.<\/strong><\/p>\r\n<h3>Sut gallaf ymateb?<\/h3>\r\n<p>Gallwch ymateb un ai drwy\u2019r post neu e-bost.\u00a0 Os yn bosib, dylech ymateb i MSFOMA a Llywodraeth Cymru &#8211; yn syml er mwyn sicrhau bod y ddau barti yn gwybod beth yw eich barn, a bydd yn osgoi problemau o ran rhannu data a GDPR.\u00a0 Gallwch wneud hyn drwy glicio ar y ddolen hon <a href=\"mailto:info@msfoma.org;%20MarineandFisheries@gov.Wales?subject=Afon%20Menai%20(Dwyrain)%20Gorchymyn%20Pysgodfa%20Arfaethedig%20Gorchymyn&amp;corff=Teipiwh%20eich%20ymateb%20yma.%20\">yma<\/a>, a fydd yn creu e-bost yn awtomatig i chi gyda chyfeiriadau Llywodraeth Cymru a MSFOMA. Manylion cysylltu llawn Llywodraeth Cymru ac MSFOMA yw:-<\/p>\r\n<ul>\r\n<li>Gorchymyn Arfaethedig Pysgodfa Afon Menai (Dwyrain), Isadran y M\u00f4r a Physgodfeydd, Swyddfa Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3 UR.\u00a0 <a href=\"mailto:MarineandFisheries@gov.Wales\">MarineandFisheries@gov.Wales<\/a>.<\/li>\r\n<li>Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai. Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd Ll57 4HN. <a href=\"mailto:info@msfoma.org\">info@msfoma.org<\/a>.<\/li>\r\n<\/ul>\r\n\r\n\r\n\r\n\r\n\r\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cefndir<\/h2>\r\n<p>Dwyrain Afon Menai yw\u2019r safle dyframaethu pwysicaf yng Nghymru gyfan, a\u2019r ardal ffermio cregyn gleision unigol fwyaf yn y DU i gyd.\u00a0 Mae llwyddiant yr ardal hon yn deillio o\u2019r amgylchedd naturiol unigryw sy\u2019n berffaith ar gyfer cregyn gleision; a hefyd yr amddiffyniad cyfreithiol (a elwir yn \u201cOrchymyn Pysgodfa\u201d) sy\u2019n caniat\u00e1u i ffermwyr cregyn gleision lleol dyfu cregyn gleision heb ofni y byddant yn cael eu dwyn gan eraill.<\/p>\r\n<p>Bydd y \u201cGorchymyn Pysgodfa\u201d a wnaed gan y Llywodraeth yn 1962 yn dod i ben y flwyddyn nesaf.\u00a0 Os na chaiff ei adnewyddu, yna bydd Cymru yn colli ei lle blaenllaw o ran dyframaethu yn y DU, a bydd y busnesau lleol a\u2019r swyddi sy\u2019n dibynnu ar bysgota cregyn gleision yn diflannu.\u00a0 Mae adnewyddu\u2019r Gorchymyn Pysgodfa hwn yn bwysig i Gymru ac i\u2019r economi leol.<\/p>\r\n<p>Dros y 59 mlynedd diwethaf, mae\u2019r ffermwyr pysgod cregyn yng Ngogledd Cymru wedi gweithio\u2019n galed i sefydlu eu safle blaenllaw mewn dyframaethu yn y DU.\u00a0 Maent wedi comisiynu gwaith ymchwil gan wyddonwyr o Brifysgol Bangor i archwilio sut i leihau effeithiau amgylcheddol ac i wneud y defnydd gorau o\u2019r ardal fel bod cregyn gleision yn cael eu ffermio\u2019n gynaliadwy. \u00a0 Yn 2010 pysgodfa Afon Menai oedd yr ardal ffermio cregyn gleision cyntaf yn y byd i gael ei hardystio gan y <a href=\"https:\/\/fisheries.msc.org\/en\/fisheries\/north-menai-strait-mussel\/%40%40view\">Cyngor Stiwardiaeth Forol<\/a>.<\/p>\r\n<p>Ceir gwybodaeth fanwl am dechnegau ffermio cregyn gleision yn ogystal \u00e2 ffeithiau a ffigyrau diddorol am gregyn gleision ar ein tudalen\u00a0<a href=\"https:\/\/www.msfoma.org\/?page_id=900\">Cwestiynau Cyffredin<\/a> page.<\/p>\r\n\r\n\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ymgynghoriad cyhoeddus bellach yn agored ar y cynnig i greu \u201cGorchymyn Pysgodfa\u201d newydd yn nwyrain Afon Menai i gymryd lle\u2019r Gorchymyn Pysgodfa sydd wedi bod ar waith ers 1962.\u00a0 Mae\u2019r Gorchymyn Pysgodfa newydd hwn yn hanfodol ar gyfer dyfodol &hellip; <a href=\"https:\/\/www.msfoma.org\/?page_id=891\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.msfoma.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/891"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.msfoma.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.msfoma.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.msfoma.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.msfoma.org\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fcomments&post=891"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.msfoma.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/891\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":908,"href":"https:\/\/www.msfoma.org\/index.php?rest_route=\/wp\/v2\/pages\/891\/revisions\/908"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.msfoma.org\/index.php?rest_route=%2Fwp%2Fv2%2Fmedia&parent=891"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}