Adnewyddu Gorchymyn Pysgodfa Dwyrain Afon Menai

Cefndir

Dwyrain Afon Menai yw’r safle dyframaethu pwysicaf yng Nghymru gyfan, a dyma’r ardal fwyaf ledled y DU ar gyfer ffermio cregyn gleision. Mae llwyddiant yr ardal hon i’w briodoli i’r amgylchedd naturiol unigryw sy’n berffaith i gregyn gleision, yn ogystal â’r amddiffyniad cyfreithiol (a elwir yn “Orchymyn Pysgodfa”) sy’n galluogi ffermwyr cregyn gleision lleol i feithrin cregyn gleision yma heb ofni y bydd eraill yn eu dwyn.

Yn 2022, bydd y “Gorchymyn Pysgodfa” a wnaeth Llywodraeth y DU yn 1962 yn dod i ben. Oni osodir Gorchymyn newydd yn ei le, bydd Cymru’n colli ei lle blaenllaw ym maes dyframaeth y DU, a bydd y busnesau a’r swyddi lleol sy’n dibynnu ar y bysgodfa cregyn gleision yn diflannu. Mae’n bwysig i Gymru ac i’r economi leol fod y Gorchymyn Pysgodfa hwn yn cael ei adnewyddu.

Erbyn hyn, mae’r ffermwyr cregyn gleision sy’n gweithio yn Afon Menai yn dechrau’r broses o adnewyddu’r “Gorchymyn Pysgodfa” fel y bydd deddfwriaeth newydd yn barod ymhen 4 mlynedd i gymryd lle’r Gorchymyn a wnaed yn 1962.

Beth sy’n cael ei gynnig?

Rydym yn cynnig adnewyddu’r “Gorchymyn Pysgodfa” presennol â Gorchymyn newydd cyfatebol. Mae profiad a’r wyddoniaeth yn dweud wrthym fod ardaloedd sy’n addas ar gyfer ffermio cregyn gleision yn brin iawn. Dros y 55 mlynedd ddiwethaf, rydym wedi canfod y mannau gorau i ffermio cregyn gleision yn Afon Menai. Ni chynigir dim newidiadau i’r graddau y caiff cregyn gleision eu ffermio.

Mae lleoliad yr ardaloedd ffermio cregyn gleision yn nwyrain Afon Menai i’w weld yn y map isod.

Beth yw’r amserlen?

Rydym yn dal ar ddechrau’r broses ymgeisio. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn ymgynghori â sefydliadau allweddol yn yr ardal ac yn codi ymwybyddiaeth o’n cynlluniau. Rydym yn gobeithio cyflwyno ein cais ffurfiol i Ysgrifennydd y Cabinet am gael adnewyddu’r Gorchymyn hwn erbyn yn gynnar yn 2018.

Beth fydd yn digwydd yn yr ardaloedd hyn?

Ffermio cregyn gleision

Bu cregyn gleision yn cael eu meithrin yn Afon Menai ers 1962. Caiff cregyn gleision eu ffermio mewn ardaloedd sy’n cael eu gosod ar brydles i bob ffermwr cregyn gleision. Mae pob ffermwr yn casglu cregyn gleision “hadu” bychain ac yn eu rhoi ar y lan yn nyfroedd cysgodol Afon Menai. Mae’r cregyn gleision yn tyfu’n gyflym yma, a chyn pen tua dwy flynedd maent yn ddigon mawr i’w casglu a’u bwyta. Caiff y cregyn gleision eu ffermio’n uniongyrchol ar wely’r môr – nid oes dim rhwydi nac offer yn cael eu gosod ar y lan.

A yw ffermwyr cregyn gleision yn defnyddio cemegion?

Nac ydynt. Nid oes angen trin cregyn gleision fferm â chemegion er mwyn rheoli plâu. Nid oes angen eu bwydo ychwaith – maent yn hidlo’u bwyd o ddŵr y môr, gan lanhau’r dŵr wrth wneud hynny. Yn Sweden a Denmarc, defnyddir y broses o ffermio cregyn gleision i lanhau dyfroedd llygredig. Mae cregyn gleision yn dda i ansawdd y dŵr.

A fyddai yna lawer o draffig cychod?

Na fyddai. Mae ffermwyr wystrys yn gweithio ar y lan pan fo’r llanw allan. Mae ffermwyr cregyn gleision yn defnyddio cychod, ond maent ar y safle dim ond pan fônt yn ailosod cregyn gleision ac yn eu casglu. Mae’r gwaith â’r cychod yn cael ei wneud pan fo’r llanw’n uchel yn unig, a hynny rhwng yr hydref a’r gwanwyn yn bennaf, ac fel arfer rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

A yw hyn yn gynaliadwy?

Ydy. Mae’r Cyngor Stiwardiaeth Forol wedi ardystio’r fferm cregyn gleision yn Afon Menai yn annibynnol yn bysgodfa gynaliadwy. Yn wir, dyma oedd yr ardal ffermio cregyn gleision gyntaf yn y byd i gael ei hardystio’n un gynaliadwy. Mae ffermwyr cregyn gleision yn gweithio gyda gwyddonwyr o’r Ganolfan Gwyddor Môr Gymhwysol yn barhaus i wella dulliau o ffermio a sicrhau bod cynaliadwyedd y bysgodfa’n gwella drwy’r amser.

A fyddai hyn yn fy atal rhag…..

Hwylio yn yr ardal?

Na fyddai. Nid oes dim cyfyngiadau ar hwylio dros yr ardaloedd ffermio pysgod cregyn. Ychydig iawn o ddiwrnodau a fyddai bob blwyddyn pan fo gwaith yn cael ei wneud â chychod cregyn gleision, ac mae’r gwaith yn cael ei gynllunio er mwyn osgoi digwyddiadau hwylio pwysig (fel rasys).

Cerdded ar y traeth neu’r blaendraeth?

Na fyddai. Nid yw’r Gorchymyn Pysgodfa yn cyfyngu ar y gallu i fynd i’r traeth neu’r blaendraeth. Bydd modd o hyd ichi gerdded ar y lan.

Dod â chwch i’r lan?

Na fyddai. Nid yw’r Gorchymyn Pysgodfa’n atal pobl rhag dod â chychod at y lan, boed ar gyfer picnic neu waith cynnal a chadw, nac yn ymyrryd â hynny.

Pysgota â gwialen yn Afon Menai?

Na fyddai. Ni fyddai dim cyfyngiadau newydd ar bysgota â gwialen o’r lan neu o gychod.

Beth yw Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai?

Sefydlwyd Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai (MSFOMA) yn 2010 i oruchwylio’r gwaith o reoli’r ardaloedd ffermio pysgod cregyn yn nwyrain Afon Menai. Mae’n sefydliad dielw annibynnol. Mae ei aelodau’n cynnwys 2 gynrychiolydd o’r diwydiant pysgota, ac un cynrychiolydd o bob un o’r sefydliadau a ganlyn: Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, a Phrifysgol Bangor. Caiff ei gadeirio gan Dr Sue Utting, sef arbenigwr annibynnol ym maes pysgodfeydd, o Fae Colwyn.

Beth yw “Gorchymyn Pysgodfa”?

Yng Nghymru, mae “Gorchymyn Pysgodfa” yn Orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n dyrannu’r hawliau i bysgota yn y môr am rywogaethau pysgod cregyn penodol i unigolyn neu sefydliad. Cafodd y Gorchmynion Pysgodfeydd cyntaf eu gwneud ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ar hyn o bryd, mae 24 o Orchmynion Pysgodfeydd yn y DU, sy’n asgwrn cefn i’n hallforion o gregyn gleision a wystrys.

Ble y galla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Mae sawl ffordd y gallwch chi ganfod rhagor am y cynnig. Mae rhywfaint o wybodaeth ar y rhyngrwyd yn www.msfoma.org; a gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at info@msfoma.org. Os yw’n well gennych siarad â ni’n bersonol, gallwch gysylltu â Jim Andrews drwy ffonio 07908-225865.

Gellir lawrlwytho PDF o’r diweddariad hwn i’w argraffu yma.