Ymgynghoriad ar Orchymyn Pysgodfa Newydd Afon Menai Ebrill-Mai 2021

Mae ymgynghoriad cyhoeddus bellach yn agored ar y cynnig i greu “Gorchymyn Pysgodfa” newydd yn nwyrain Afon Menai i gymryd lle’r Gorchymyn Pysgodfa sydd wedi bod ar waith ers 1962.  Mae’r Gorchymyn Pysgodfa newydd hwn yn hanfodol ar gyfer dyfodol ffermio pysgod cregyn yn yr ardal hon, ac rydym yn awyddus i glywed eich barn. Mae’r ymgynghoriad ar agor rhwng 8 Ebrill ac 8 Mai 2021.  Rhoddwyd hysbysiadau ffurfiol o’r ymgynghoriad yn Fishing News, y Daily Post a’r Western Mail.

Rhybudd Cyhoeddus / Public Notice

Yn ymarferol, mae’r Gorchymyn Pysgodfa newydd arfaethedig yn adnewyddiad “tebyg am debyg” o’r Gorchymyn presennol o 1962.  Prif nodweddion y Gorchymyn Pysgodfa newydd yw:-

  • Bydd ardaloedd a gweithgareddau ffermio pysgod cregyn yn aros yn yr un lleoliadau ag y maent heddiw; ac
  • Ni fydd y gweithgareddau o ddydd i ddydd fel ar hyn o bryd (megis hwylio, pysgota a cherdded ar y traeth) yn cael eu heffeithio.

Gellir lawrlwytho copi o’r “Gorchymyn Pysgodfa” newydd yma.  Rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth ar eich cyfer fydd o gymorth i chi wrth ymateb i Lywodraeth Cymru a MSFOMA, yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth gefndirol am ffermio pysgod cregyn yn Afon Menai.

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn unol â Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967.  Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol (yn Atodlen 1) i ni gynnal ymarfer ymgynghoriad ar gyfer Gorchymyn Pysgodfa newydd am gyfnod o fis.

 phwy y byddwn yn ymgynghori?

Fel rhan o’r broses statudol, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni ymgynghori â thirfeddianwyr, les-ddeiliaid a meddianwyr tir yn ogystal â chyrff statudol ac ymgymerwyr statudol. Mae’r ymgynghoriad yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes.  Er mwyn codi ymwybyddiaeth rydym wedi rhoi hysbysebion mewn papurau lleol, ac wedi anfon hysbysiadau yn uniongyrchol at yr holl bartïon â diddordeb yr ydym yn ymwybodol ohonynt ac sydd wedi bod mewn cysylltiad â ni eisoes.  Rydym hefyd wedi ceisio adborth trwy ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol.

Faint o amser sydd gennyf i ymateb?

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 8 Ebrill 2021 ac mi fydd yn para am fis, gan orffen ar 8 Mai 2021.

Sut gallaf ymateb?

Gallwch ymateb un ai drwy’r post neu e-bost.  Os yn bosib, dylech ymateb i MSFOMA a Llywodraeth Cymru – yn syml er mwyn sicrhau bod y ddau barti yn gwybod beth yw eich barn, a bydd yn osgoi problemau o ran rhannu data a GDPR.  Gallwch wneud hyn drwy glicio ar y ddolen hon yma, a fydd yn creu e-bost yn awtomatig i chi gyda chyfeiriadau Llywodraeth Cymru a MSFOMA. Manylion cysylltu llawn Llywodraeth Cymru ac MSFOMA yw:-

  • Gorchymyn Arfaethedig Pysgodfa Afon Menai (Dwyrain), Isadran y Môr a Physgodfeydd, Swyddfa Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3 UR.  MarineandFisheries@gov.Wales.
  • Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai. Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd Ll57 4HN. info@msfoma.org.

Cefndir

Dwyrain Afon Menai yw’r safle dyframaethu pwysicaf yng Nghymru gyfan, a’r ardal ffermio cregyn gleision unigol fwyaf yn y DU i gyd.  Mae llwyddiant yr ardal hon yn deillio o’r amgylchedd naturiol unigryw sy’n berffaith ar gyfer cregyn gleision; a hefyd yr amddiffyniad cyfreithiol (a elwir yn “Orchymyn Pysgodfa”) sy’n caniatáu i ffermwyr cregyn gleision lleol dyfu cregyn gleision heb ofni y byddant yn cael eu dwyn gan eraill.

Bydd y “Gorchymyn Pysgodfa” a wnaed gan y Llywodraeth yn 1962 yn dod i ben y flwyddyn nesaf.  Os na chaiff ei adnewyddu, yna bydd Cymru yn colli ei lle blaenllaw o ran dyframaethu yn y DU, a bydd y busnesau lleol a’r swyddi sy’n dibynnu ar bysgota cregyn gleision yn diflannu.  Mae adnewyddu’r Gorchymyn Pysgodfa hwn yn bwysig i Gymru ac i’r economi leol.

Dros y 59 mlynedd diwethaf, mae’r ffermwyr pysgod cregyn yng Ngogledd Cymru wedi gweithio’n galed i sefydlu eu safle blaenllaw mewn dyframaethu yn y DU.  Maent wedi comisiynu gwaith ymchwil gan wyddonwyr o Brifysgol Bangor i archwilio sut i leihau effeithiau amgylcheddol ac i wneud y defnydd gorau o’r ardal fel bod cregyn gleision yn cael eu ffermio’n gynaliadwy.   Yn 2010 pysgodfa Afon Menai oedd yr ardal ffermio cregyn gleision cyntaf yn y byd i gael ei hardystio gan y Cyngor Stiwardiaeth Forol.

Ceir gwybodaeth fanwl am dechnegau ffermio cregyn gleision yn ogystal â ffeithiau a ffigyrau diddorol am gregyn gleision ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin page.